‘Dyn ni gyd yn gyfarwydd â gwisgo eli haul yn yr haf - wedi’r cyfan, does neb eisiau edrych fel cimwch ar wyliau! Ond a oeddech chi’n gwybod bod e’n bwysig i ddefnyddio ef hyd yn oed ar ddiwrnod cymylog? 🤔
Mae yna dau fath o ymbelydredd sydd yn cael eu hallyrru gan yr haul: UVA ac UVB. Dyma sut maen nhw’n cymharu:
UVA = mae hyn yn sefyll am Ultraviolet A, ac mae’n gysylltiedig gyda heneiddio cynamserol (premature ageing).
UVB = mae Ultraviolet B yn achosi llosg haul oherwydd ei thonfedd fer.
Felly, mae’n hanfodol i gael eli haul sydd yn eich amddiffyn rhag y ddau fath o ymbelydredd yma, er mwyn sicrhau eich bod mor ddiogel â phosib yn yr haul.
Pan rydych chi’n siopa am eli haul addas, mae yna rhai pethau i gadw mewn cof. Yn ôl yr NHS, dylech geisio dod o hyd i eli haul sydd yn SPF 30 neu’n fwy, ac yn cael amddiffyniad 4* neu fwy yn erbyn UVA. Bydd eli haul sydd yn eich amddiffyn rhag UVA ac UVB yn cael ei labelu fel ‘broad spectrum’, felly cadwch olwg allan am hynny.
Mae eli haul yn gallu bod yn ddrud fodd bynnag, ond mae yna opsiynau cryf ar y farchnad sydd yn addas ar gyfer y wyneb a’r corff.
Dyma rhai o fy ffefrynnau:
1. Altruist Dermatologist Sunscreen SPF 30+
Mae’r eli haul yma yn newydd i fi, ond o’r tro cyntaf wnes i ei drio cwympais i mewn cariad gyda fe'n syth. Un nodwedd o’r cynnyrch yma sydd yn sefyll allan i fi yw’r ffaith ei fod yn hypoallergenic, sydd yn bwysig tu hwnt i fi gan fy mod yn dioddef o adweithiau drwg i rai cynnyrch harddwch weithiau. Hefyd, does dim persawr ynddo (sydd yn berffaith ar gyfer rhai sydd yn cael croen sensitif), mae yna amddiffyniad 5* yn erbyn UVA ac mae e dim ond yn costio £4.50 am 200ml! Mae’n teimlo fel moisturiser ar ôl iddo gael ei amsugno gan y croen, felly does dim ofn am ludiogrwydd na thrymder chwaith.
Dyma’r eli haul mwyaf trawiadol dwi ‘di dod ar draws hyd yn hyn, ac mae e’n addas ar gyfer diwrnod yn y môr gan ei fod yn gwrthsefyll dŵr hefyd.
2. Bondi Sands Face Spf 50+
Dyma opsiwn sydd yn hynod o boblogaidd ar draws y rhwydweithiau cymdeithasol, a dwi ddim yn synnu pam! Yn benodol ar gyfer y wyneb, mae’r eli haul yma yn hydradu’ch croen heb deimlo fel eli haul traddodiadol, sydd yn tueddu i fod yn anghyfforddus ac yn ormod gyda cholur dros ei ben.
Yn lle, mae’r eli haul yn lledaenu’n hawdd ar draws y croen, ac yn feddal i’r cyffwrdd. Dwi’n credu ei fod yn gweddu orau i groen sych, gan ei fod yn fformiwla eithaf trwchus sydd efallai yn anaddas i groen seimllyd.
Mae’n costio tua £6.99 am 75ml, ond dwi ‘di prynu fe pan roedd 50% bant o’r pris llawn, felly edrychwch am fargeinion ar-lein!
3. Garnier Ambre Solaire UV Protection Mist SPF 50
Opsiwn dwi’n mynd nôl ato dro ar ôl tro yw’r eli haul ‘ma gan Garnier. Rhywbeth unigryw am hwn yw’r ffaith ei fod ar ffurf tarth, felly rydych chi’n gallu defnyddio fe dros eich colur chi! Delfrydol ar gyfer diwrnodau pan ‘dych chi eisiau edrych yn ffab tra bod yn ddiogel o gryfder yr haul.
Mae’r eli haul yma yn benodol ar gyfer croen sensitif a golau, felly os rydych chi’n llosgi’n hawdd a dim eisiau defnyddio eli trwchus, dyma’r opsiwn i chi!
Am tua £6.00 am 75ml, mae hyn yn ddewis rhad a chyfleus er mwyn cael ‘touchups’ yn ystod y dydd. Ond paid ag anghofio i ddefnyddio digon, gan fod e’n hawdd peidio defnyddio’r swm cywir o gynnyrch gan ei fod yn fformiwla ysgafn ac anweledig.
Felly, y ffordd orau o gadw eich croen yn iachus ac yn ifanc yw defnyddio eli haul pob dydd, trwy’r flwyddyn. Dechreuwch heddiw a bydd eich croen yn rhoi diolch i chi yn y dyfodol!
Comments