Mae tua 95% o bobl o’r oedrannau 11 i 30 yn dioddef o acne i ryw radd. Felly pam ydy’r cyflwr croen yma dal i dderbyn stigma yn 2022? Nawr yw’r amser i siarad amdano’n agored, yn onest ac yn drylwyr fel ‘dyn ni’n gallu teimlo’n fwy hyderus am ein croen a’n hunain.
Beth yw acne'n gyffredinol?
Acne yw cyflwr groen cyffredinol sydd yn gallu achosi plorynnod ar y wyneb, brest, ysgwyddau neu'r cefn oherwydd hormonau neu ffoliglau gwallt yn cael eu plygio gydag olew a chelloedd croen sydd wedi marw.
Gall y plorynnod edrych yn wyn, yn ddu neu'n goch yn dibynnu ar y math o acne sydd yn bresennol. Er enghraifft, gall acne cael ei achosi gan facteria o'r enw Propionibacterium acnes, neu P. acnes yn fyr. Yn dibynnu ar achos yr acne, bydd triniaeth yn amrywio.
Enghraifft o acne - yn dod o Pixabay.
Ydy hormonau yn rhan o'r broblem?
Os mae'ch acne yn goch, poenus ac yn ymddangos ar ben isaf eich wyneb, gall hwn fod yn symtom o acne hormonaidd.
Bydd dermatolegydd yn gallu trin hwn ac mae'n well i'w weld yn fuan unwaith mae'r cyflwr wedi ymddangos, gan fod yr acne yn gallu achosi creithiau ar eich croen a materion iechyd eraill os mae'ch hormonau'n anghytbwys.
Ydy acne'n gallu effeithio ar iechyd meddwl?
Mae acne o unrhyw fath yn gallu achosi hunanhyder isel, felly paid â theimlo'n euog am hyn gan ei fod yn hollol naturiol i brofi hwn.
Gall doctor eich helpu trwy wneud diagnosis o achos yr acne a thrwy gynnig unrhyw driniaeth sydd eu hangen ar ei gyfer.
Fy mhrofiad personol gydag acne
Dwi wedi profi acne hormonaidd am flynyddoedd nawr, ac mae Microgynon (brand o'r bilsen) wedi lleddfu difrifoldeb a'r amlder o'r acne.
Dwi'n teimlo'n fwy gyfforddus yn fy nghroen nag oeddwn i flwyddyn yn ôl.
Mae dal gen i farciau coch ar fy mochau a hefyd breakouts pob hyn a hyn, ond dwi'n hapus gyda fy nghynnydd ac mae colur wastad yna i fy nghodi pan mae eisiau!
Paid ag anghofio bod acne'n hollol normal ac yn effeithio ar filoedd o bobl pob flwyddyn, felly nad ydych chi ar eich pen eich hunain. Gyda cholur neu beidio, byddech chi'n darganfod eich hyder unwaith eto gydag amser!
Comentarios