top of page
Writer's pictureFfion Jones

Meddwl am Melasma🤔

Updated: Mar 25, 2022

Cyflwr croen sydd ddim yn cael ei drafod llawer yn y cyfryngau a'r cyhoedd yw melasma. Mae'n gallu effeithio hyd at 50% o fenywod yn ystod beichiogrwydd, felly dyw e ddim yn gyflwr sydd yn ymddangos yn anaml. Er hyn, does dim digon o sylw yn cael ei roi iddo, sydd yn gallu cael yr effaith o ysgogi unigrwydd, dryswch a phoeni o fewn y menywod a'r rhai dynion sydd yn cael eu heffeithio gan y cyflwr yma.



Esiampl o melasma - o DermNet New Zealand.



I newid hwn, siaradais i 'da Rachel Non Evans, Cynhyrchydd Llawrydd sydd yn dod o Gaerdydd a wnaeth ddioddef o melasma tua 17 mlynedd yn ôl wrth ddisgwyl ei babi cyntaf. Er bod dau o blant ganddi nawr, ymddangosodd y melasma dim ond unwaith, ac ar ôl geni fe wnaeth y cyflwr croen ddiflannu heb unrhyw driniaeth. Roeddwn i eisiau darganfod ym mha ffordd wnaeth y melasma effeithio arni'n gorfforol ac yn seicolegol, a hefyd os roedd yna deimlad o eisiau colur i guddio'r cyflwr neu beidio. Cadwch i ddarllen a gwrando i weld ei hatebion hi!




Pryd ddechreuoch chi ddioddef o melasma?









Sut wnaeth y profiad yma effeithio arnoch chi'n feddyliol ac yn gorfforol?






Yn ôl arolwg yn 2019 yn y Journal of the European Academy of Dermatology and Venereology, mae yna debygrwydd bod pobl sydd yn dioddef o gyflyron croen sy'n ymwneud â phigmentiad yn teimlo iselder ysbryd a phryder. Mae'n rhyddhad, felly, bod Rachel ddim wedi profi'r rhain er roedd popeth am ei chorff yn newid yn ystod ei beichiogrwydd.





Llun o fenyw 'da melasma.




Pa mor anodd oedd e i ddelio gyda?









Ym mha ffordd wnaeth colur helpu gyda’ch hyder yn ystod y profiad yma?






Mae colur yn gallu codi ein hysbryd os 'dyn ni'n cael trafferth ym mywyd weithiau, ond bob hyn a hyn mae'n braf i adael ein croen ac i ymhyfrydu yn ein harddwch naturiol hefyd!



A oes unrhyw gyngor gennych am eraill sydd yn dioddef o melasma?






Mae neges Rachel i harneisio'r melasma yn adlewyrchu craidd Harneisio Harddwch - pa bynnag gyflwr croen sydd gennych chi, trïwch i wneud y gorau ohono mewn unrhyw ffordd sydd yn teimlo'n iawn i chi.

12 views0 comments

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page