Adran o'r GIG sydd ddim yn cael llawer o adnabyddiaeth yn y cyfryngau yw'r adran Dermatoleg. Mae hyn yn synnu fi gan fod 60% o bobl yn y DU yn naill ai'n dioddef o gyflwr croen ar hyn o bryd, neu maen nhw wedi dioddef o un yn y gorffennol yn ôl y British Skin Foundation. Felly, beth yn union ydy'r staff yn gwneud neu'n gweld o ddydd i ddydd?
Siaradais i gyda Nia Dennis, Nyrs Glinigol Arbenigol Dermatoleg ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae hi'n gweithio ar yr ochr nyrsio enynnol, felly mae hi'n delio gyda chyflyron croen megis ecsema, psoriasis ac acne'n benodol. Mae hi wedi bod yn gweithio yna am bron 5 mlynedd, a'i hysbrydoliaeth i gymryd y swydd yn y lle cyntaf yw ei mab yn ei arddegau sydd eisoes yn dioddef o ecsema ei hunan. Cyn cymryd y swydd, fe wnaeth hi ymgymryd ag ymchwil personol er mwyn ffeindio ffordd i'w helpu, a nawr mae hi'n gallu gwneud jyst hynny yn ei rôl hi.
Yn y fideo isod, gallwch ddysgu am sut mae psoriasis, ecsema ac acne yn effeithio ar gleifion, sut i leddfu'r rhain a pha mor bwysig yw e i weld dermatolegydd os rydych yn stryglo gyda'ch croen.
Mae Nia hefyd yn rhybuddio am yr effaith mae ffilterau rhwydweithiau cymdeithasol yn cael ar bobl ifanc, oherwydd eu bod yn creu'r effaith o groen llyfn mewn ffordd sydd yn anghyraeddadwy yn y byd go iawn. Felly, os 'dyn ni'n ceisio cael gwared â'r ffilterau o ddydd i ddydd, efallai bydd ein hunan hyder yn codi o ganlyniad i ni'n dod yn gyfarwydd gyda sut 'dyn ni'n edrych yn naturiol. Mae Harneisio Harddwch yn gant y cant yn cefnogi hwn, gan mai hunan gariad yw'r peth mwyaf pwysig i ni ac os 'dyn ni'n gallu cymryd camau i gyflawni hynny, dyna beth fyddwn ni'n neud!
I fynd nôl at ofal croen, argymhelliad sydd 'da Nia am leithydd i ddefnyddio yw'r Cetraben Cream ar gyfer cyflyron croen sych a chosi.
Fel sy'n cael ei nodi yn y fideo, dylen ni gyd defnyddio lleithydd ar gyfer y corff dwywaith y dydd os 'dyn ni'n gallu, felly gall cynnyrch fel Cetraben eich helpu os 'dych chi'n brwydro gydag ecsema neu gyflwr tebyg. Ond, fel gwnaeth Nia ddweud wrthyf fi, mae croen pob person yn wahanol felly mae'n cymryd tipyn bach o brawf a chamgymeriad i ffeindio rhywbeth sydd yn gweithio'n iawn i chi.
Mae'n hefyd yn bwysig i gael cymorth os oes gennych chi gyflwr fel psoriasis yn benodol gan ei fod yn gallu'ch effeithio'n ddifrifol os mae'n cael eu gadael heb driniaeth. Gall y cyflwr ddatblygu i fod yn psoriatic arthritis, fel sy'n cael ei ddangos isod:
Felly, y prif bwynt i gymryd wrth hyn i gyd yw mynd at y doctor os mae'ch croen yn poeni chi mewn unrhyw ffordd, ac os mae meddygaeth normal ddim yn gweithio bydden nhw'n cyfeirio chi at y dermatolegydd i greu cynllun triniaeth yn lle.
Gobeithio bod y wybodaeth yma'n helpu chi mewn rhyw ffordd!
Komentáře