top of page
Writer's pictureFfion Jones

Popeth am Harneisio Harddwch

Updated: Mar 9, 2022


Croeso i Harneisio Harddwch pawb! Dwi mor bles i allu ddechrau’r blog ‘ma ac i rannu fy stori a’m cyngor gyda chi gyd!✨


Felly, beth yw Harneisio Harddwch?


Harneisio Harddwch yw prosiect prifysgol ar-lein am gyngor colur ar gyfer cyflyron groen.


Os oes gennych gyflwr fel acne, rosacea, melasma neu unrhyw gyflwr groen arall, falle bydd colur yn gallu rhoi hwb i'ch hyder os oes angen!



Beth oedd ysbrydoliaeth Harneisio Harddwch?


Dwi 'di dioddef o acne hormonaidd am flynyddoedd, ac mae colur wedi helpu fi i deimlo'n bwerus ac yn browd!



Llun o fy nghroen heb unrhyw golur



Dwi'n gobeithio bydd ein tiwtorialau colur a'r postiadau ar beth yw wahanol cyflyron groen yn eich helpu chi hefyd, ac i wneud i chi deimlo dydych chi ddim yn unig.



Fy nghroen gyda cholur - gwahaniaeth mawr!



Pa mor aml bydd Harneisio Harddwch yn postio?


Byddaf yn postio o leiaf unwaith pob wythnos ar Insta, TikTok a’r blog yma, felly gwnewch yn siŵr i ddilyn fi ar bob platfform 😉 Enw'r cyfrifon yw @harneisioharddwch ar TikTok ac Instagram, a byddaf yn postio fideos byr a bachog yn ogystal â phostiadau gweledol a chyffrous arnynt!


Dwi’n gyffrous i ddechrau cymuned fach ar-lein ac i ddysgu mwy ar yr un pryd! 🤓


Mwynhewch y penwythnos a gweld chi wythnos nesaf! 💄



Recent Posts

See All

Comments


bottom of page