Ydych chi’n cofio’ch gwersi Celf yn yr ysgol gynradd pan ddysgoch chi am yr olwyn lliw am y tro cyntaf? Efallai doedd y dechneg o gymysgu a chyferbynnu lliwiau ddim yn gwneud synnwyr ar y pryd, ond mae artistiaid colur dal yn ei defnyddio heddiw. Mae cadw’r wybodaeth o sut mae lliwiau yn gallu cyd-fynd gyda’i gilydd yn sylfaenol ar gyfer creu colur dymunol a thrawiadol, yn enwedig pan ‘dych chi eisiau cywiro lliwiau penodol yn y croen.
Mae cyflyron croen megis rosacea, acne a melasma yn achosi pigmentiad annormal yn y croen, ac weithiau mae cynnyrch fel foundation a concealer ddim yn ddigon ar gyfer eu cuddio. Ond, wrth ddefnyddio cywirwyr lliw cyn defnyddio’r colur ‘ma, bydd sail eich croen yn edrych yn llyfn ac wedi ei niwtraleiddio.
Darllenwch ymlaen i weld pa fath o gywirydd lliw sydd yn iawn i chi, a pha gynnyrch penodol sydd yn gallu eich helpu hefyd!
1. Cywirydd gwyrdd
Os ‘dych chi’n brwydro gyda phigmentiad coch yn eich croen, bydd cywirydd lliw gwyrdd yn gallu datrys y broblem mewn eiliadau.
Gwyrdd yw’r gwrthwyneb llwyr i goch ar yr olwyn lliw, ac felly wrth ddefnyddio gwyrdd ar y cochder sydd yn eich croen bydd unrhyw groen crac yn cael ei dawelu.
Cywirydd lliw gwyrdd ar gyfer cochder.
Mae hyn yn ddefnyddiol tu hwnt ar gyfer delio gydag acne a rosacea, gan fyddech chi’n defnyddio llai o gynnyrch colur yn gyffredinol wrth ddechrau gyda sail undonog. Os oes gennych gochder ar draws y wyneb i gyd, trïwch gywirydd lliw ar ffurf primer er mwyn targedu pigmentiad mewn ffordd syml a chyflym.
Argymhellion cynnyrch: Collection Cosmetics Green Concealer, e.l.f. Studio Mineral Infused Face Primer in Tone Adjusting Green, LA Girl Pro High Definition Concealer.
2. Cywirydd oren
Ar gyfer cyflyron fel melasma, mae rhaid edrych am gywirydd lliw sydd yn gallu taclo pigmentiad brown. Gan fod brown yn gymysgedd o liwiau gwahanol, y lliw sydd y mwyaf addas ar gyfer ei niwtraleiddio yw oren golau oherwydd ei allu i dargedu tonau glas, coch a melyn yn y croen.
O ganlyniad, bydd eich pigmentiad tywyll a heriog yn edrych yn llai difrifol a bydd unrhyw golur ‘dych chi’n defnyddio ar ei ben yn gweithio’n galetach nag o’r blaen.
Eto, os mae’ch melasma yn effeithio’ch wyneb i gyd, ewch am fformiwla sydd yn addas ar gyfer mwy nag un ardal fel eich bod yn gallu gwasgaru’r cynnyrch heb edrych yn drwchus neu’n ormod.
Argymhellion cynnyrch: NYX PROFESSIONAL MAKEUP Conceal Correct Contour Palette, Pixi Correction Concentrate, ALGENIST Reveal Concentrated Colour Correcting Drops (Apricot).
3. Cywirydd coch
Os oes gennych groen tywyll, mae angen defnyddio cywirydd lliw sydd yn targedu pigmentiad afreolaidd (megis marciau o acne neu bigmentiad sydd yn fwy tywyll na’ch croen yn gyffredinol) heb adael cast gwyn ar y wyneb. Yr ateb? Cywirydd lliw coch sydd yn gallu gwneud popeth sy’n cael ei restru uchod.
Mae coch yn fedrus yn canslo patches tywyll ar y croen, yn ogystal â chylchoedd tywyll o dan y llygaid. Sut mae hyn yn gweithio? Wel, mae croen tywyll yn tueddu i gael undertones gwyrdd neu glas, ac felly mae lliw cryf fel coch yn gallu niwtraleiddio’r rhain heb fod yn rhy golau ar gyfer pobl o liw.
Mae rhai pobl yn defnyddio minlliw coch fel cywirydd coch hefyd!
Cofiwch i ddefnyddio dim ond tipyn o gynnyrch wrth fynd ati i guddio pigmentiad tywyll fodd bynnag, gan fod coch yn gallu fod yn anodd blendio mewn ffordd naturiol.
Argymhellion cynnyrch: Morphe Color Correcting Concealer (Red), Maybelline New York Master Camo Color Correcting Pen (Red), KimChi Chic Beauty The Most Concealer (Red).
Rwy’n gobeithio bod y wybodaeth yma yn eich helpu wrth fynd ati i greu’r effaith o groen clir gyda cholur. Arbrofwch, ymarferwch ac ymhyfrydwch yn beth sy’n gwneud chi i fod yn unigryw!
Comments