Er bod cymdeithas wedi cynyddu mewn shwd cymaint o ffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf, mae ‘na dal pwnc mae llawer o bobl yn anghyfforddus gyda - dynion yn gwisgo colur.
Mae ‘na sêr enwog wedi sicrhau bod colur yn edrych yn gŵl ar wynebau dynion yn y degawdau diwethaf, fodd bynnag. David Bowie, Prince a RuPaul yw rhai esiamplau o hyn, ac mae eu henwogrwydd wedi helpu i newid persbectifau'r cyhoedd wrth wneud e’n fwy normal i ddangos dynion gyda cholur lliwgar, trawiadol a thrawsnewidiol. Er hyn, mae dal llawer o waith i wneud er mwyn tawelu meddyliau’r dynion yn ein bywyd bod colur yn iawn i bawb o unrhyw gefndir i’w wisgo.
Llun o David Bowie yn gwisgo colur ar gyfer fideo cerddoriaeth.
Mae’r sioe teledu RuPaul’s Drag Race wedi dod â cholur ‘drag’ i’r golwg yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae yna bethau positif yn digwydd i ddechrau’r proses yma yn y maes harddwch, sydd yn newyddion grêt! Er enghraifft, mae yna’r brand colur ar gyfer dynion o’r enw War Paint a sefydlodd yn 2018, sydd gyda’r nod i dorri’r stigma bod colur ar gyfer menywod yn unig. Yn ogystal â hyn, mae Harry Styles wedi lansio brand harddwch ei hunan yn y misoedd diwethaf sydd yn ffocysu ar farnais ewinedd ar gyfer unrhyw un sydd eisiau arbrofi a theimlo’n brydferth. Gobeithio dros y misoedd a blynyddoedd nesaf bydd mwy o amlygiad o ddynion yn mynegi eu hunain yn rhydd yn y cyfryngau ac yn y gymdeithas.
Yn sgil hwn, siaradais i ‘da Lewys Jenkins, artist colur o Ystradgynlais sy’n syfrdanu pawb gyda’i golur ar Instagram. Mae ganddo 35,500 o ddilynwyr o dan ei gyfrif @lewysrj, ac mae e wedi gweithio gyda’r brand Colourpop nifer o weithiau oherwydd ei grefft.
Isod 'dych chi'n gallu clywed ein sgwrs sydd yn cynnwys sut ddechreuodd e arbrofi gyda cholur, beth oedd ymateb y cyhoedd i'w golur a'i gymorth i'r rhai sydd eisiau dechrau eu hantur weledol.
Dyma cwpwl o luniau o Lewys yn edrych yn lysh!
'Dyn ni'n gallu dysgu tip neu dau wrtho fe!
Fel sydd yn y fideo, dechreuodd Lewys ddefnyddio colur fel ffordd o guddio ei acne, fel 'dych chi'n gallu gweld isod:
Ond, ar ôl tri rownd o Roaccutane, meddyginiaeth sy'n benodol ar gyfer acne, mae croen Lewys yn iachus ac yn llyfn:
Nawr mae e'n teimlo'n hyderus ac fel ei fod mewn lle gwell gyda'i olwg.
Er bod Lewys wedi dioddef o bobl yn beirniadu ei ddewisiadau creadigol gyda'i golur, mae ei nerth ef yn erbyn y status quo yn ysgogol tu hwnt. Dalia ati Lewys, a phob lwc 'da ti yn y dyfodol!
Comments